Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Ionawr 2013
Yr amserlen ar gyfer ystyried y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol
ar y Bil Twf a Seilwaith - diwygiadau i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988
1. Ar 8 Ionawr 2013, cytunodd y Pwyllgor Busnes, yn unol â Rheol Sefydlog 29.4, i gyfeirio’r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Twf a Seilwaith - diwygiadau i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 at y Pwyllgor Menter a Busnes, er mwyn iddo ystyried y darpariaethau perthnasol a chyflwyno adroddiad arnynt.
2. Yn unol â Rheol Sefydlog 29.5, cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylai’r Pwyllgor Menter a Busnes a gyflwyno adroddiad i’r Cynulliad erbyn 31 Ionawr 2013.